Lucy Hollis
Partner
As Head of Redkite Solicitors’ market leading Commercial and Agricultural Property team, I have the pleasure of heading up a team with unrivalled breadth of expertise and specialism in all areas of commercial property.
My team and I have signifcant experience of working with businesses in West Wales and helping them to grow and develop profitably. We advise on lease negotiation and drafting, planning, commercial development, property investment, banking related property matters, the acquisition and disposal of property, insolvency related transactions and agricultural transactions. Whatever we are doing, it’s my job to make sure that our commercial property clients get expert, practical, personal advice that meets their business needs and that transactions are completed on time, every time. I am also delighted that our service is offered to all of our clients in both Welsh and English, I myself being a fluent welsh speaker, as are several members of my team.
I have developed a reputation for being accessible, sensible and a practical lawyer with a sharp mind. My clients tend to be pretty savvy about their business – they need me to advise on the technical legal issues and to be clear and commercial in that advice. My clients include:
- Landlords and Tenants who value a efficient, prompt and tailored service
- Large local and regional developers looking for sensible advice and a cost effective plot sales team who can handle more than 50 plots at a time
- Property investment companies who need portfolio management with several client portfolios exceeding £5m
- Agricultural businesses who need specialist agricultural law advice on sale and purchase of land and buildings as well as agricultural tenancies such as farm business tenancies
- Businesses re-financing, mortgages, guarantees and buying and selling freehold commercial properties
- Landowners leasing land for solar and wind farms, including options and development agreements
I love working closely with individual clients and small, often family run businesses. I’m proud to see the local businesses that I assist grow and develop and to have contributed in some way to that. Originally from Bancyfelin, Carmarthenshire, I have stayed close to my roots. After University in Cardiff and the Swansea, I trained with Morris Roberts in 2006 and have worked in the West Wales commercial property market since I qualified in 2008, working closely with local estate agents, surveyors, bank managers and lenders.
I now work in Redkite’s offices in Carmarthen and Pembrokeshire. I live in Bancyfelin and spend most weekends outdoors playing with my boys in the countryside.
Fel Pennaeth tîm Eiddo Masnachol ac Amaethyddol Red Kite Solicitors sy’n arwain y farchnad, mae gen i’r pleser o arwain tîm gydag ehangder heb ei ail o arbenigedd ym mhob maes eiddo masnachol.
Mae gan fy nhîm a minnau brofiad sylweddol o weithio gyda busnesau yng Ngorllewin Cymru a’u helpu i dyfu a datblygu’n broffidiol. Rydym yn cynghori ar drafodaethau a drafftio prydles, cynllunio, datblygu masnachol, buddsoddi eiddo, materion eiddo sy’n gysylltiedig â bancio, caffael a gwaredu eiddo, trafodion sy’n gysylltiedig ag ansolfedd a thrafodion amaethyddol. Beth bynnag a wnawn, fy swydd i yw sicrhau bod ein cleientiaid eiddo masnachol yn cael cyngor arbenigol, ymarferol, personol sy’n diwallu eu hanghenion busnes a bod trafodion yn cael eu cwblhau ar amser, bob tro. Rwyf hefyd yn falch iawn bod ein gwasanaeth yn cael ei gynnig i’n holl gleientiaid yn Gymraeg a Saesneg, ac rwyf innau yn siaradwr Cymraeg rhugl, fel y mae sawl aelod o’m tîm.
Rwyf wedi datblygu enw da am fod yn hygyrch, yn synhwyrol ac yn gyfreithiwr ymarferol gyda meddwl miniog. Mae fy nghleientiaid yn tueddu i fod yn eithaf gwybodus am eu busnes – mae angen i mi gynghori ar y materion cyfreithiol technegol ac i fod yn glir a masnachol yn y cyngor hwnnw. Mae fy nghleientiaid yn cynnwys:
- Landlordiaid a Thenantiaid sy’n gwerthfawrogi gwasanaeth effeithlon, prydlon wedi ei deilwra
- Datblygwyr lleol a rhanbarthol mawr sy’n chwilio am gyngor synhwyrol a thîm gwerthu lleiniau cost-effeithiol sy’n gallu trin mwy na 50 o leiniau ar y tro
- Cwmnïau buddsoddi eiddo sydd angen rheoli portffolio gyda nifer o bortffolio cleientiaid sy’n fwy na £5m
- Busnesau amaethyddol sydd angen cyngor arbenigol ar gyfraith amaethyddol ar werthu a phrynu tir ac adeiladau yn ogystal â thenantiaethau amaethyddol fel tenantiaeth busnes fferm
- Busnesau yn ail-ariannu, morgeisi, gwarantau a phrynu a gwerthu eiddo masnachol rhydd-ddaliadol
- Tirfeddianwyr yn prydlesu tir ar gyfer ffermydd solar a gwynt, gan gynnwys opsiynau a chytundebau datblygu
Rwyf wrth fy modd yn gweithio’n agos gyda chleientiaid unigol a busnesau bach, yn aml yn deuluol. Rwyf yn falch o weld y busnesau lleol rwyf i’n eu cynorthwyo yn tyfu a datblygu ac wedi cyfrannu mewn rhyw ffordd at hynny. Yn wreiddiol o Bancyfelin, Sir Gaerfyrddin, rwyf wedi aros yn agos at fy ngwreiddiau. Ar ôl bod yn y brifysgol yng Nghaerdydd ac Abertawe, hyfforddais gyda Morris Roberts yn 2006 ac rwyf wedi gweithio ym marchnad eiddo masnachol Gorllewin Cymru ers i mi gymhwyso yn 2008, gan weithio’n agos gydag asiantau tai lleol, syrfewyr, rheolwyr banciau a benthycwyr.
Rwyf bellach yn gweithio yn swyddfeydd Redkite yng Nghaerfyrddin a Sir Benfro. Rwyf yn byw ym Mancyfelin ac yn treulio’r rhan fwyaf o benwythnosau yn yr awyr agored yn chwarae gyda fy mechgyn yng nghefn gwlad.
-
“We sold a business to very difficult purchasers, but, Lucy was great and kept her cool whilst bringing our purchase in line with the sale. She was there for us every step of the way”.